fbpx
Centre Login

VTCT Level 1 Diploma in Beauty Therapy / Lefel 1 mewn Therapi Harddwch

Overview

The qualification

The VTCT Level 1 Diploma in Beauty Therapy is a qualification that has been specifically designed to develop your practical skills through the following units; improving the appearance of the hands and feet with basic manicure and pedicure services, providing relaxing head massage treatments, cleansing, toning and moisturising and giving advice on skincare, and basic day make-up application.

To further enhance your skills you will also cover artistic and creative elements on your course such as nail art, themed face painting and photographic make-up.

To underpin this qualification you will develop a sound knowledge of health and safety and you will also develop an underpinning knowledge and understanding of the skills required to support you in the beauty therapy industry such as salon reception duties, retail displays and working with others.

The purpose of this qualification is to develop your skills in beauty therapy and will provide you with the foundation for further learning. It will also enable you to perform your own basic services and to assist others in the salon.

Y cymhwyster

Mae’r VTCT Diploma Lefel 1 mewn Therapi Harddwch yn gymhwyster sydd wedi’i gynllunio’n benodol er mwyn datblygu eich sgiliau ymarferol drwy’r unedau canlynol; triniaethau sylfaenol er mwyn gwella edrychiad y dwylo a’r traed, darparu triniaethau tylino pen er mwyn ymlacio, glanhau, tynhau, lleithio a rhoi cyngor ar ofalu am y croen, a sut i roi colur dydd sylfaenol.

Er mwyn gwella eich sgiliau ymhellach, bydd eich cwrs hefyd yn cynnwys elfennau artistig a chreadigol fel celf ewinedd, themâu peintio wynebau a choluro ar gyfer ffotograffau.

Fel sylfaen ar gyfer y cymhwyster hwn byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn am iechyd a diogelwch a byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol o’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn eich cefnogi yn y diwydiant therapi harddwch fel dyletswyddau derbynfa salon, arddangosfeydd manwerthu a gweithio gydag eraill.

Diben y cymhwyster hwn yw datblygu’ch sgiliau therapi harddwch a bydd yn rhoi’r sylfaen i chi ar gyfer dysgu pellach. Bydd hefyd yn eich galluogi i ddarparu eich gwasanaethau sylfaenol eich hun a chynorthwyo eraill yn
y salon.